Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 5
Mehefin 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.
(20 munud)
Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y comisiwn arbenigol a gaiff ei benodi o ran coridor yr M4 o amgylch Casnewydd?
(5 munud)
NDM7063 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.13(ii), yn ethol Caroline Jones (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes.
(60 munud)
NDM7058 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod pedair blynedd ar 8 Mehefin 2019 ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig.
2. Yn nodi ymhellach bod y trefniadau mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn gyson o dan oruchwyliaeth y Gweinidog Iechyd cyfredol.
3. Yn gresynu at y ffaith bod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr welliannau sylweddol i'w gwneud o hyd o ran ei wasanaethau iechyd meddwl ac o ran ei lywodraethu, ei arweinyddiaeth a'i oruchwyliaeth, er gwaethaf treulio mwy o amser mewn mesurau arbennig ar gyfer y materion hyn nag unrhyw sefydliad yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
4. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd i dderbyn ei gyfrifoldeb am fethu â chyflawni'r gwelliant gofynnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dros y pedair blynedd diwethaf ac ymddiswyddo.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi’i wneud yn y meysydd cychwynnol y nodwyd eu bod yn peri pryder yn 2015, a’r ffocws a’r gwelliant sy’n ofynnol o hyd er mwyn i’r statws uwchgyfeirio gael ei ostwng.
Yn nodi y bydd unrhyw benderfyniadau ynghylch newid statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael eu gwneud ar ôl cael cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru.
(60 munud)
NDM7059 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn datgan ei gefnogaeth ddiamwys i refferendwm cadarnhau ar ba delerau bynnag a gynigir gan unrhyw Brif Weinidog bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a bod opsiwn ar y papur pleidleisio i barhau yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
1. Yn cydnabod ei bod bron yn dair blynedd ers i bobl Cymru bleidleisio i adael yr UE ac nad ydym yn nes at gyflawni eu dymuniadau.
2. Yn gresynu fod Aelodau Seneddol o'r ddwy brif blaid wedi ceisio atal y DU rhag gadael yr UE, er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwario £9miliwn ar daflen a oedd yn addo cadw at ganlyniadau'r refferendwm a'r rhan fwyaf o Aelodau Seneddol a etholwyd yn 2017 yn sefyll ar sail y maniffestos a oedd yn addo cyflawni BREXIT.
3. Yn galw ar Brif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig i gyflawni dymuniadau'r bobl a gadael yr UE ddim hwyrach na 31 Hydref 2019.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2016.
2. Yn credu y dylid gweithredu ar ganlyniadau refferenda bob amser.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 3 - Rebecca Evans (Gwyr)
Ar ôl 'barhau yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd' rhoi 'ac yn dweud unwaith eto y byddai Brexit heb gytundeb yn ganlyniad trychinebus a chwbl annerbyniol.'
(60 munud)
NDM7029 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth trechu tlodi, gyda chyllideb a chynllun gweithredu manwl ar gyfer gweithredu.
2. Yn galw ar y Prif Weinidog i egluro'r meysydd cyfrifoldeb ar gyfer trechu tlodi ym mhob portffolio gweinidogol.
3. Yn cydnabod ac yn llywio atebolrwydd ar gynnydd a wneir ar yr agenda trechu tlodi.
Cyd-gyflwynwyr
Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Cefnogwyr
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
David J Rowlands (Dwyrain De Cymru)
(30 munud)
NDM7060 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dad-ddofi Tir Cymru: yr achos dros anadlu bywyd i'n tirweddau a'n cymunedau gwledig ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 11 Mehefin 2019